Oedolion Mewn Risg o Fynd ar Goll

Sut i Gadw’n Ddiogel yn ystod COVID-19 a’r Cymorth Sydd ar Gael yng Nghymru

Gwyddom eleni y bu llawer o newidiadau yng Nghanllawiau’r Llywodraeth ynghylch sut ddylen ni gadw’n ddiogel yn ystod pandemig y COVID-19. Gyda newyddion diweddar bod y cyfyngiadau
symud yn cael eu codi, rydym yn deall efallai nad yw’n ddiogel o hyd i adael cartref na meddwl am fynd ar goll. Rydym yn dymuno eich helpu chi i gadw’n ddiogel petaech chi’n meddwl am adael cartref, a rhoi gwybod i chi sut i gysylltu â ni os ydych chi angen siarad.

Os oes gennych chi anwylyn oddi cartref a’ch bod yn poeni amdano, rydym ni yma i’ch helpu chi hefyd. Gallwch chi ddod o hyd i fwy o ganllawiau a chymorth ar gyfer teuluoedd yma.

Rydym wedi casglu’r awgrymiadau gwych canlynol rhag ofn y byddan nhw’n ddefnyddiol yn ystod yr amseroedd anodd hyn.

Os nad yw amgylchedd eich cartref yn ddiogel neu ddim yn teimlo’n ddiogel

(Er enghraifft, ond nid yn gyfyngedig i, os ydych chi’n dioddef camdriniaeth ddomestig neu os oes rhywun yn manteisio arnoch neu’n gwneud i chi deimlo’n anghyfforddus yn eich eiddo)

Os ydych chi’n meddwl gadael:

  • Gallwch chi barhau i adael eich cartref i gyrraedd lle diogel ni waeth beth yw goblygiadau’r cyfyngiadau symud. Mae lefelau amrywiol y cyfyngiadau symud wedi cael eu gweithredu drwy’r flwyddyn hon, ond mae’n bwysig eich bod chi’n gwybod y gallwch chi adael hyd yn oed yn ystod cyfyngiadau symud llawn.
  • Dylech chi gael cynllun diogelwch – meddyliwch am lle gallwch chi aros, a phwy yr ydych chi’n ymddiried ynddyn nhw i ofyn am help.
  • Gall fod yn fwy heriol i gael mynediad at wasanaethau cymorth, gan gynnwys eich gwasanaethau cymdeithasol lleol ar yr adeg hon. Siaradwch â ni os ydych chi angen siarad â rhywun, os ydych chi’n teimlo y gallwch chi fod mewn sefyllfa lle’r ydych chi angen gadael, neu os ydych chi’n teimlo’n ansicr neu wedi’ch gorlethu.  Rydym ar gael o 9am – 11pm ac rydym yn rhad ac am ddim i gysylltu â ni dros y ffôn (116 000), testun (116 000), neu anfonwch e-bost at 116000@missingpeople.org.uk er mwyn cael cymorth cyfrinachol.  Gallwch chi aros yn anhysbys wrth i chi siarad â ni, os ydych chi’n dymuno gwneud hynny.

Os ydych chi’n cynllunio gadael:

  • Os ydych chi’n gadael cartref, dilynwch y canllawiau i gadw eich hun ac eraill yn ddiogel yn gyhoeddus o ran Covid-19 drwy:
  • Cadw 2 fetr oddi wrth bobl
  • Gwisgo gorchudd wyneb
  • Osgoi torfeydd
  • Glanhau dwylo ac arwynebau yn rheolaidd
  • Tra’r ydych chi i ffwrdd, gall fod yn anos i wefru eich ffôn a chael mynediad at leoedd i orffwys neu aros oherwydd bod llawer o fusnesau yn parhau ar agor neu fod ganddyn nhw bolisïau llymach. Meddyliwch am beth fyddwch chi ei angen i gadw’n ddiogel a lle byddwch chi’n gallu mynd.

Os nad ydych chi’n cynllunio gadael ar hyn o bryd:

  • Tra bod ymweliadau teuluol a threulio amser gyda ffrindiau yn gyfyngedig, mae’n wirioneddol bwysig ein bod ni i gyd yn gallu aros mewn cysylltiad gyda phobl ddiogel yn ein bywydau. Sicrhewch eich bod yn gallu defnyddio ffôn neu’ch bod yn gallu mynd ar-lein er mwyn parhau i gyfathrebu.
  • Dylech chi gael cynllun diogelwch rhag ofn y byddwch chi angen gadael – meddyliwch am lle gallwch chi aros, a phwy yr ydych chi’n ymddiried ynddyn nhw i ofyn am help.
  • Gall fod yn fwy heriol i gael mynediad at wasanaethau cymorth, gan gynnwys eich gwasanaethau cymdeithasol ar yr adeg hon. Fodd bynnag, gallwch chi barhau i estyn allan am gymorth.  Rydym ar gael o 9am-11pm a gallwch chi gysylltu â ni drwy ffôn rhad ac am ddim (116 000), testun (116 000), neu anfonwch e-bost at 116000@missingpeople.org.uk er mwyn cael cymorth cyfrinachol.  Gallwch chi aros yn anhysbys wrth wneud galwad, os ydych chi’n dymuno gwneud hynny.
  • Mae’n bwysicach nag erioed fod pawb yn eich cartref chi yn cael lle a phreifatrwydd pan maen nhw ei angen. Siaradwch â phobl yn eich cartref chi am beth ydych chi ei angen a chytunwch ar gynllun os ydych chi’n teimlo o dan straen neu os oes unrhyw ddadleuon yn y cartref.
  • Gall ymarfer corff fod yn ddefnyddiol ar gyfer iechyd meddwl a llesiant pawb. Gall bawb barhau i ymarfer unwaith y diwrnod, hyd yn oed o dan amodau’r cyfyngiadau symud.  Os yw’n teimlo yn iawn i chi, ystyriwch a fyddai mynd allan i ymarfer yn rhywbeth a fyddai yn helpu i wella eich iechyd meddwl a’ch llesiant.
  • Bydd cael hwyl a chadw pawb yn ddiddig yn helpu pawb i barhau mewn hwyliau da yn ystod y pandemig. Siaradwch â phobl yr ydych chi’n eu hadnabod er mwyn gweld sut gallech chi gysylltu ar-lein, ystyriwch ddechrau gweithgareddau newydd a meddwl a oes yna unrhyw ddiddordebau y gall eich cartref chi ei wneud tra mae pawb adref.

Gwasanaethau cymorth eraill yng Nghymru

Mae’r Samariaid ar gael 24/7 ac mae’n darparu cymorth drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg a’r Saesneg.

  • Gellir cael cymorth 24/7 drwy’r iaith Saesneg drwy ffonio 116 123 neu drwy anfon e-bost at jo@Samaritans.org
  • Gellir cael cymorth drwy’r iaith Gymraeg rhwng 7pm ac 11pm drwy ffonio 0808 164 0123

Os ydych chi, aelod o’r teulu neu ffrind neu unrhyw un yr ydych chi’n pryderu amdano wedi profi camdriniaeth ddomestig neu drais rhywiol, gallwch chi gysylltu â Llinell Gymorth Byw Heb Ofn 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, er mwyn cael cyngor a chymorth rhad ac am ddim neu i siarad am eich dewisiadau.

Cysylltwch â chynghorwyr Byw Heb Ofn yn rhad ac am ddim dros y ffôn, drwy sgwrs ar-lein, neu drwy anfon neges destun neu e-bost.

https://llyw.cymru/byw-heb-ofn

Sign up to be a Digital Search Hero

We have launched a regular email so that you can be aware of new missing person appeals and share them far and wide! We are also calling on all Heroes to be the eyes and ears for Missing People on the ground. Your sighting of a missing person could make a difference in a crucial time.