Teuluoedd y Bobl sydd ar Goll yng Nghymru

Sut i gadw’n ddiogel yn ystod COVID-19 a’r cymorth sydd ar gael os ydych chi’n poeni am rywun sy’n gadael ei gartref

Gwyddom eleni y bu llawer o newidiadau yng Nghanllawiau’r Llywodraeth ynghylch sut ddylen ni gadw’n ddiogel yn ystod pandemig y COVID-19.  Gyda newyddion diweddar bod y cyfyngiadau symud yn cael eu codi, rydym yn deall bod hyn yn parhau yn amser pryderus os yw eich anwylyn chi ar goll.

Rydym yn dymuno eich helpu chi ac aelodau eich teulu i gadw’n ddiogel pe baen nhw’n meddwl am adael cartref, a rhoi gwybod i chi sut i gysylltu â ni os ydych chi angen siarad.  Os oes gennych chi anwylyn sydd i ffwrdd o’r cartref a’ch bod yn poeni amdano, mae gennym ni gyngor ar gael iddo hefyd.

Rydym wedi casglu’r awgrymiadau canlynol rhag ofn y byddan nhw’n ddefnyddiol yn ystod yr adegau anodd hyn.

Rydym yn deall ar yr adeg hon, fod gennych chi efallai rai pryderon ychwanegol ynghylch eich anwylyn sydd ar goll o’i gartref, neu os ydych chi’n poeni bod rhywun sy’n gadael cartref mewn risg ychwanegol.

  • Gall cael rhywun sydd ar goll ar hyn o bryd arwain at deimladau cynyddol o unigrwydd a phoen. Mae Missing People yn cynnal grŵp cymdeithasol ar-lein bob wythnos ar hyn o bryd i’ch helpu chi gyda’r teimladau hyn.  Cynhelir y cyfarfodydd drwy Zoom ar ddyddiau Mercher o 19.30-20.30.  Er mwyn cofrestru eich diddordeb, anfonwch e-bost os gwelwch yn dda at support@missingpeople.com. Pe byddai’n well gennych chi gymorth cyfrinachol, un i un, cysylltwch â’n llinell gymorth os gwelwch yn dda.  Rydym ar gael o 9am-11pm ac rydym yn hollol rad ac am ddim dros y ffôn (116 000), testun (116 000), neu anfonwch e-bost at 116000@missingpeople.org.uk. Gallwch chi aros yn anhysbys wrth siarad â ni, os ydych chi’n dymuno gwneud hynny.
  • Bydd llawer ohonom yn teimlo’n bryderus ynglŷn â’r sefyllfa bresennol gan gynnwys y bobl yn eich teulu a’ch grwpiau cymheiriaid, a gall fod yn effeithio ar eu hiechyd meddwl. Siaradwch gyda nhw ynglŷn â COVID-19, sicrhewch eu bod yn deall y canllawiau pellter cymdeithasol, a siaradwch am unrhyw ddisgwyliadau newydd sydd arnoch i gyd.  Cadwch mewn cof fod hwn yn amser arbennig o anodd i’r rhai hynny sydd â chyflyrau iechyd meddwl neu anghenion ychwanegol sy’n bodoli eisoes.  Mae newidiadau i drefn arferol, cael mynd allan a gweld ffrindiau yn anodd i bawb, ond gallan nhw fod hyd yn oed yn fwy anodd iddyn nhw.
  • Rhannwch y manylion am ein llinell gymorth rhad ac am ddim, gyfrinachol gydag unrhyw un y gallwch chi fod yn bryderus amdano os ydych chi’n teimlo eu bod yn dymuno gadael cartref neu mewn risg o fynd ar goll.

Sign up to be a Digital Search Hero

We have launched a regular email so that you can be aware of new missing person appeals and share them far and wide! We are also calling on all Heroes to be the eyes and ears for Missing People on the ground. Your sighting of a missing person could make a difference in a crucial time.